|
Bwriedir y gyfrol hon ar gyfer cael ei darllen gan ddarllenwyr cyffredin yn ogystal ag arbenigwyr. Gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw'r awdur. Bu'n
darlithio ym meysydd yr Hen Destament a'r Testament Newydd yn y
Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth, am gyfnod helaeth, ac mae'n
awdur esboniadau ar dri o lythyrau'r Apostol Paul. Bu'n Llywydd
Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr 1990-1.
|